Diwrnod hyfforddi Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer staff llyfrgelloedd AU, dydd Mercher 15 Awst 2007
Noder os gwelwch yn dda, mae’r diwrnod hyfforddi hwn yn awr yn llawn. Os oes diddordeb gennych fynychu digwyddiad tebyg yn y dyfodol agos, os gwelwch yn dda ebostiwch Elizabeth Kensler
Yn dilyn lansiad eu gwefan newydd, catalog llyfrgell integredig newydd a chofrestru ar-lein, mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig diwrnod hyfforddi rhad ac am ddim ar ddydd Mercher, Awst 15fed i staff llyfrgelloedd AU yng Nghymru. Cynhelir y sesiwn yn LlGC rhwng 10.30am a 3.30pm ac yn cynnwys:
arolwg o gasgliadau LlGC
taith o amgylch LlGC
cofrestru ar-lein i LlGC ac i gael enw defnyddiwr a chyfrinair Athens
adnoddau electronig a mynediad drwy Athens
arddangosiad o gatalog newydd ar-lein y llyfrgell
gwefan newydd y llyfrgell
gwasanaeth ymholiadau
gwasanaeth dosbarthu a chopïo dogfennau
Os oes gennych ddiddordeb, a wnewch chi gwblhau'r ffurflen gofrestru ar-lein, neu gysylltu ag Elizabeth Kensler (gweler isod). Os na allwch ddod i'r sesiwn hwn, a wnewch chi nodi ar y ffurflen os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu sesiwn tebyg yn LlGC rywbryd eto.
Nodwch, os gwelwch yn dda, na fyddwn yn darparu cinio, ond fe fydd Pen Dinas, Bwyty'r Llyfrgell, ar agor.
Bydd y cyfle i fwcio yn dod i ben ddydd Llun 12 Awst 2007.
Cyswllt: Elizabeth Kensler, Swyddog Datblygu WHELF (eak@aber.ac.uk 01970 621908)