Dolen i’r arolwg yn Saesneg   Information Literacy: Enabling users in higher education? / Sharon Markless

Crynodeb: Achlysur hyfforddi cyfranogol ac ymarferol am ddim i staff llyfrgelloedd Addysg Uwch a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyllidir gan Raglen CyMAL (Maes Marchnata) @ Eich Llyfrgell Chi.

Hyfforddwr: Ar hyn o bryd y mae Sharon Markless yn darlithio yn y Sefydliad Dysgu ac Addysgu, Coleg King’s, Llundain ac yn ymchwilydd a hyfforddwraig lawrydd. Bu’n addysgu mewn ysgolion, addysg bellach a charchardai cyn mynd yn Uwch Ddarlithydd mewn Datblygu Proffesiynol yng Ngholeg Prifysgol Christ Church Caergaint. Bu hefyd yn Uwch Swyddog Ymchwil yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysg am chwe blynedd a chwaraeodd ran flaenllaw mewn sawl prosiect cenedlaethol.

Cost: Dim

Canolfannau:

De Cymru:
24 Ionawr 2007, 10.30am - 5.00pm
Llyfrgell y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
Prifysgol Caerdydd

Gogledd a chanol Cymru (ailadrodd sesiwn):
14 Chwefror 2007, 10:00am - 4:00pm
Ystafell 230, Adeilad Brigantia
Prifysgol Cymru Bangor

Cynulleidfa Darged: Yn agored i holl staff llyfrgelloedd AU a GIC yng Nghymru, ac i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n ymwneud ag addysg defnyddwyr. Os yn bosibl, dylech ddod ag enghraifft o addysgu/cymorth llythrennedd gwybodaeth a fy, yn eich barn chi, yn lwyddiannus (allbrint o gynllun gwers)

Braslun o’r Rhaglen:

Llythrennedd Gwybodaeth: mwy na rhestr siopa am sgiliau?
Pa gysyniad o LlG rydych am ei gyflwyno? Oes angen fframwaith y cytunwyd arno – neu unrhyw fframwaith? Sut fyddech chi, hwyrach, yn defnyddio model o LlG?

Sut mae myfyrwyr yn dysgu bod yn llythrennol/gwybodus mewn gwybodaeth?
Y prif egwyddorion sy’n ategu ymyriadau ar-lein neu wyneb-yn-wyneb
Trosglwyddo?
Arddulliau a phatrymau wrth geisio gwybodaeth

Beth sydd wedi gweithio i chi?
Rhannu enghreifftiau penodol o sesiynau/rhaglenni/cydweithredu sydd wedi gweithio’n dda. Sut ydych chi’n gwybod pa wahaniaeth a wnaethpwyd ganddynt?

Defnyddio’r dechnoleg yn effeithiol
Y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir/e-ddysgu
Cynllunio gweithgareddau ar-lein
Cysylltu â’r cwricwlwm

Materion strategol
Lefelau cydweithredu (gan gynnwys asesu)
Deunydd generig yn erbyn disgyblaeth-benodedig
LlG sy’n sefyll ar ei ben ei hun yn erbyn LlG planedig

Manylion y cwrs: Darperir cinio a lluniaeth ar y diwrnod.
I archebu lle yn y naill digwyddiad neu’r llall, dylech lenwi’r ffurflen gais atodedig. Gan fod rhaid cyfyngu’r nifer ar y ddau achlysur i 24 o bobl, dyrennir lle ar sail cyntaf i’r felin.

Gwybodaeth bellach, dylech gysylltu ag:
Elizabeth Kensler, Swyddog Datblygu Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF)
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Cymru, Aberystwyth SY23 3DZ
Ffôn: 01970 621908 / E-bost: eak@aber.ac.uk

Yn ôl i dudalen Hyfforddiant