Information Literacy: Advanced internet searching and new technologies / Karen Blakeman
Crynodeb: Gweithdy hyfforddiant cyfranogol am ddim (i gynnwys sesiynau ymarferol) ar gyfer staff llyfrgelloedd Addysg Uwch a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyllidir gan raglen CyMAL (Maes Marchnata), @ Eich Llyfrgell Chi.
Hyfforddwyr: Gweithiodd Karen Blakeman yn broffesiynol ym maes gwybodaeth ers dros ugain mlynedd, a bu’n ymgynghorydd llawrydd ers 1989. Mae ei chwmni (RBA Information Services) yn darparu gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori ar ddefnyddio’r rhyngrwyd ac ar hygyrchu a rheoli adnoddau gwybodaeth. Mae Karen yn cyfrannu i “Business Information Serarcher”. Mae hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr electronig misol o’r enw “Tales from the Terminal Room”. Ymysg ei chyhoeddiadau y mae “Search Strategies for the Internet” sydd bellach yn ei chweched argraffiad. Yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Gymrodor Mygedol i CILIP ac yn 2002, derbyniodd gwobr Gweithwraig Wybodaeth Broffesiynol y Flwyddyn gan yr Information World Review.
Cost: Dim
Canolfannau:
De Cymru:
6 Chwefror 2007, 9.30am - 4.00pm
PC Room 3
Canolfan Llyfrgell a Gwybodaeth
Prifysgol AbertaweGogledd a chanol Cymru (sesiwn ailadrodd): mae’r cwrs hwn yn llawn
28 Chwefror 2007, 9:30am -4:00pm
C66, Adeilad Hugh Owen
Campws Penglais
Prifysgol Cymru AberystwythCynulleidfa Darged: Yn agored i staff llyfrgelloedd AU a GIC yng Nghymru, ac i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Braslun o’r Rhaglen:
- Ymchwiliadau pellach ar y Rhyngrwyd
- Peiriannau chwilio eraill (nid Google yn unig)
- Y datblygiadau diweddaraf ar y we yn fwy cyffredinol
- Diffinio RSS, blogiau a wikis
- Beth yw’r ots? – cymwysiadau allweddol a rhesymau dros eu defnyddio
- Sut i ddefnyddio RSS ar gyfer rhybuddion ymwybyddiaeth gyfredol a newyddion
- Adnabod porthiannau RSS a blogiau
- Defnyddio RSS a blogiau i farchnata’ch gwasanaethau ac i gadw’ch defnyddwyr yn gyfredol
- Sefydlu blog
- Blogiau a wikis fel offer cydweithredol
- Effaith technolegau newydd ar gywirdeb ac ansawdd gwybodaeth
- Cynhelir sesiynau ymarferol pryd y gellwch sefydlu’ch gwasanaeth rhybuddio personol gan ddefnyddio RSS, cychwyn blog a chyfrannu at wiki. Gellir cymhwyso’r technegau a’r dulliau a ddisgrifir yn y gweithdy hwn ar gyfer pob maes pwnc.
Manylion y Cwrs: Darperir cinio a lluniaeth ar y diwrnod.
I archebu’ch lle yn y naill digwyddiad neu’r llall, dylech lenwi’r ffurflen archeb atodedig. Gan fod lleoedd yn y ddau ddigwyddiad yn gyfyngedig i 25 o bobl, rhoddir lle ar sail cyntaf i’r felin.Gwybodaeth bellach, cysylltwch ag:
Elizabeth Kensler, Swyddfa Ddatblygu Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF)
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Cymru, Aberystwyth SY23 3DZ
Ffôn: 01970 621908 / E-bost: eak@aber.ac.uk